Dosbarth ar gyfer plant oed Derbyn yw Iago. Ar y dudalen cewch wybodaeth am yr hyn byddwn yn astudio yn ystod y flwyddyn ynghyd a gweld enghreifftiau o rai o weithgareddau'r dosbarth.
Yn ein dosbarth, mae diddordebau a chwilfrydedd y plant wrth galon ein dysgu. Mae syniadau, cwestiynau a phrofiadau’r plant yn llywio ein gwaith drwy gydol y flwyddyn, gan gynnig cyfleoedd cyfoethog iddynt archwilio, darganfod a dysgu drwy chwarae.Rydym hefyd yn dilyn rhythm y tymhorau, gan sylwi ar newidiadau ym myd natur a dathlu gwyliau a digwyddiadau pwysig drwy’r flwyddyn. Drwy brofiadau amrywiol yn y dosbarth ac yn yr awyr agored, rydym yn meithrin sgiliau, hyder ac annibyniaeth y plant, gan wneud y dysgu’n ystyrlon ac yn gyffrous iddynt.
Gall y disgyblion ddod i'r ysgol yn eu gwisg ymarfer corff ar ddiwrnodau Addysg Gorfforol

