Os bydd ymddygiad disgybl yn effeithio ar addysg disgyblion eraill mewn dosbarth a bod gweithredu yr athro yn aflwyddiannus, bydd y disgybl yn cael eu tynnu allan o’r wers. Pan fo hynny yn digwydd, bydd yr athro dosbarth yn deialu’r rhif “ARGYFWNG” yna bydd aelod o’r Tim Arwain neu aelod o staff y groesffordd yn dod i’w casglu a’u tywys i’r ystafell.
Mae ystafell y Groesffordd wedi ei gosod allan fel nad yw’r disgybl yn cael ei sylw wedi ei dynnu/thynnu tra yno. Tra yn y groesffordd, bydd dysgwyr yn
Fel arfer, bydd disgyblion yn dychwelyd yn syth i’r wers ganlynol ar eu hamserlen oni bai fod y wers yn wers ddwbl neu fod y disgybl wedi eu heithrio o’r dosbarth tuag at diwedd y wers.
Cofnodir fod y disgybl wedi ei eithrio o’r dosbarth ar Edulink a bydd rhieni yn derbyn neges.

